Alan Salisbury: A Retrospective
Golygwyd gan Ceri
Thomas
Prifysgol De Cymru 2015, 101 o dudalennau, pris £8
Mae'r cyhoeddiad hwn yn nodi hanner can mlynedd o ymwneud proffesiynol Alan Salisbury, a aned yn Sir Gaerhirfryn ac sy’n gweithio o’r Barri, â chelf. Mae'n cynnwys tri thestun newydd: traethawd rhagarweiniol gan Ceri Thomas, ail draethawd gan Frances Woodley a chyfweliad gyda'r artist gan Tony Curtis. Mae'r rhain yn rhoi cyd-destun i’r ffordd wahanol mae Salisbury yn ymateb i genres traddodiadol tirwedd, bywyd llonydd a (hunan) bortread a'i ddefnydd helaeth o adfeddiannu. Mae detholiad eang o ddelweddau'r artist, yn dyddio o 1965 tan 2014, wedi'u cynnwys yn y llyfr hwn sy'n cyd-fynd â'i arddangosfa deithiol ôl-syllol yn 2015-16.
A Fold in the River
Philip Gross a Valerie
Coffin Price
Seren Books 2015, 90 o dudalennau, pris £12.99
Mae'r cyhoeddiad hwn, o Seren Books, yn ffrwyth cydweithredu rhwng T.S.Eliot, y bardd arobryn Philip Gross a'r artist gweledol Valerie Coffin Price. Mae Philip Gross yn Athro Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol De Cymru ac ar un adeg roedd yn byw ar lannau Afon Taf. Ei gyfnodolion yw'r ffynhonnell ar gyfer y cerddi pwerus. Ail-ymwelodd Valerie Price â'r llwybr cerdded ar hyd yr afon a datblygu'r printiau a'r lluniadau hardd sy'n cyd-fynd â'r cerddi. Mae ei delweddau a rhai o ysgrifau Philip Gross i’w gweld yn yr arddangosfa gysylltiedig ‘Yr Afon Drs Nesa/The River Next Door’ yn Oriel y Bont, Prifysgol De Cymru, a dyna lle lansiwyd y llyfr ar 18 Mawrth 2015.
Yn ein Delw ein Hun/In Our Own Image
Ceri Thomas, In Our Own
Image? South Wales 1910 – 2013
(Trefforest, Pontypridd: Prifysgol De Cymru 2014) 68 o dudalennau, pris £7.50
Mae'r cyhoeddiad hwn yn nodi canmlwyddiant Prifysgol Morgannwg a'i aileni, yn sgil yr uno â Phrifysgol Cymru Casnewydd, fel Prifysgol De Cymru. Mae'n tynnu'n bennaf ar gasgliad celf y brifysgol i archwilio a dathlu hunaniaeth de Cymru trwy ddelweddu: cymdeithas; lle; cof a dychymyg. Mae'r paentwyr yn amrywio o Joan Baker i Ernest Zobole, y ffotograffwyr o Ray Klimek i Levi Ladd, a'r rhai sy'n gweithio mewn tri dimensiwn o David Garner i Robert Thomas. Mae'r arolwg hwn hefyd yn cyfeirio at weithiau gan Brendan Burns, Paul Cabuts, Tiffany Oben ac eraill sy'n darlithio yn y brifysgol newydd.
Sut i archebu: Ar gael o Argraffu a Dylunio PDC.