Tuag at yr Haniaethol?


Celf yn ne Cymru ers 1960


Arddangosfa o weithiau gan Sarah Ball, David Binns, Paul Brewer, Brendan Burns, John Cleal, Richard Cox (Cardiff Airport Suite, uchod), Michael Freeman, Carol Hiles, Robert Alwyn Hughes, Bert Isaac, David Nash, Stephanie Tuckwell ac Ernest Zobole o gasgliad celf y brifysgol ac yn cynnwys ymatebion creadigol ar ffurf delwedd-a-gair gan staff, myfyrwyr ac ymwelwyr.

 

Mae’r flwyddyn 1960 yn cael ei hystyried yn allweddol i’r broses o symud o gelf fodern i gelf gyfoes. Dyma’r flwyddyn wedi i’r arddangosfa arloesol The New American Painting gael ei chynnal yn Oriel y Tate, ym 1959. Mae’r pedwar artist sy’n cael eu cynrychioli gan y pedwar paentiad mawr ar flaen yr oriel yn gyflwyniad hwylus i fywyd celfyddydol  de Cymru ers 1960. Mae’r cyfnod yn dechrau gydag Ernest Zobole (1927- 99) y cafodd ei baentiad Black Valley (1962-63) ei greu ychydig fisoedd yn unig cyn iddo ddechrau darlithio yng Ngholeg Celf Casnewydd. Roedd John Selway (g 1938) yno yr un pryd ag ef, wedi cyfnod yn astudio yn y Coleg Celf Brenhinol.  Roedd ei diwtoriaid yn cynnwys yr Artist Mynegiant Haniaethol o America, Mark Rothko (1903-70). Casnewydd oedd yr ysgol gelf gyntaf yn ne Cymru yr effeithiwyd arni’n fawr gan weithiau haniaethol ôl-ryfel, drwy ddylanwad Llundain ac Efrog Newydd. Roedd paentiadau  Zobole a Selway yn y 1960au yn cynrychioli agwedd baentiadol at foderniaeth. Roedd tiwtoriaid paentio eraill yng Nghasnewydd yn hybu dull mwy seiliedig ar systemau, lle roedd gwaith brwsh a motiffau cynrychioladol yn cael eu gwrthod i raddau helaeth. Roedd y dull haniaethol, ‘caled’ hwn yn un y gellir ei ystyried yn ‘ôl-baentiadol’, ac roedd yn ddull a ffefrid gan Richard Cox (g 1946) a fu’n astudio yno yng nghanol a diwedd y 1069au. Mae ei ôl ar ei baentiadau i gyd, gan gynnwys Cardiff Airport Suite . 

Ymhlith cenhedlaeth iau, mae Sarah Ball (g 1965) a Brendan Stuart Burns (g 1963). Fel Cox, daw Ball o Loegr, ac astudiodd yng Nghasnewydd. Mae gan ei phaentiad Crater (2007) gwmpawd lliw unffurf sydd bron yn fonocrom, yr ychwanegir motiffau geometrig amrywiol iddo. Mae paentiad Burns,  Mist Wet with Rain (1998), ar y llaw arall, yn fwy paentiadol, yn debyg i waith Zobole. Ac mae’n lled-gyfeirio at leoliad yn ne Cymru – arfordir Sir Benfro, yn ei achos ef, yn hytrach na Chwm Rhondda. Mae Stephanie Tuckwell (g 1953) yn artist arall sy’n dangos dylanwad moderniaeth America, ac mae ei gwaith yn dwyn gwaith Cy Twombly (1928-2011) i gof.  Ond nid dim ond America gyfoes sydd wedi dylanwadu ar gelf de Cymru. Mae traddodiadau Ewrop gyfandirol hefyd wedi dylanwadu. Daeth y dylanwad hwn drwy Ceri Richards (1903-71), ymhlith eraill, a gwelir ei ddylanwad ar baentiadau’r artist o Abertawe, Michael Freeman (g 1936), ar waith Bert Isaac (1923-2006), a astudiodd dan Richards yng Nghaerdydd, a gwaith Robert Alwyn Hughes (g 1935) y bu ganddo yntau hefyd gyswllt uniongyrchol ag ef fel myfyriwr yn y Coleg Celf Brenhinol. 

Mae’r darn gan Paul Brewer (g 1946), oedd ymhlith cyfoedion Cox yng Nghansewydd, yn haniaethol ei olwg yn hytrach na’i fwriad tra bo rhai John Cleal (1929-2007) a Carol Hiles (b 1959) yn dangos ôl dylanwad haniaethol yn glir – fel yn wir y mae’r darnau cerfluniadol cerameg a phren gan David Binns (g 1959) a David Nash (g 1945). Gwnaed gwaith Nash,  Split Frame: Crack and Warp Square (2002), o goeden o dde Cymru ac fe’i lluniwyd yn y brifysgol. 

Dr Ceri Thomas, Curadur